Haleliwia
Brigyn
Mewn dwrn o ddur mae'r seren wen
Mae cysgod gwn tros Bethlehem
Dim angel gwyn yn canu Haleliwia.
Codi muriau, cau y pyrth
Troi eu cefn ar werth y wyrth
Mor ddu yw'r nos ar strydoedd Palesteina.
Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.
Mae weiran bigog gylch y crud
A chraith lle bu creawdwr byd
Mae gobaith yno' wylo ar ei glinia'
A ninnau' euog bob yr un
Yn dal ei gôt i wylio'r dyn
Yn chwalu pob un hoel o Haleliwia.
Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.
Mae'r nos yn ddu mae'r nos yn hir
Ond mae na rai sy' gweld y gwir
Yn gwybod fod y neges mwy na geiria'
Mai o'r tywyllwch ddaw y wawr
A miwsig ddaeth â'r muriau lawr
Daw awr i ninnau ganu Haleliwia.
Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia.
Share
More from Brigyn
Fyswn i... fysa ti?
Brigyn
Subbuteo
Brigyn
Isel
Brigyn
Tu ôl i'r wên
Brigyn
Seren
Brigyn
Diwrnod Marchnad
Brigyn
Diwedd y dydd, diwedd y byd
Brigyn
Y Sgwar
Brigyn
Os na wnei di adael nawr
Brigyn
Angharad
Brigyn
Bohemia bach
Brigyn
Pioden
Brigyn
Allwedd
Brigyn
Kings, Queens, Jacks
Brigyn