Bûm yn dy garu lawer gwaith
Do lawer awr mewn mwynder maith
Bûm yn dy gusanu Lisa gíªl
Yr oedd dy gwmni' well na'r míªl.
Fy nghangen lâ, fy nghowlad glyd
Tydi yw'r lanaf yn y byd
Tydi sy' peri poen a chri
A thi sy' dwyn fy mywyd i.
Pan fyddai' rhodio gyda'r dydd
Fy nghalon fach sy' mynd yn brudd
Wrth glywed sŵ yr adar mâ
Daw hiraeth mawr am Lisa Lâ.
Pan fyddai' rhodio gyda'r hwyr
Fy nghalon fach a dôdd fel cwyr
Wrth glywed sŵ yr adar mâ
Daw hiraeth mawr am Lisa lâ.
Lisa, a ddoi di i'm danfon i
I roi fy nghorff mewn daear ddu?
Gobeithio doi di, f'annwyl ffrind
Hyd lan y bedd, lle'r wyf yn mynd.
Hiraeth mawr am Lisa Lâ.
Hiraeth mawr am Lisa Lâ.